gwyw
ÖED
The easy, fast & fun way to learn how to sing: 30DaySinger.com
Diffyg rheolaeth Goroesi sy'n ddrud Ffisyg dynoliaeth Yw teimlo dim byd Rwy'n colli arweiniad Mae'n fregus i fyw Does dim datblygiad Mae'r byd yn wyw Mae'r afon yn llifo A'r amser yn fflio Pan nad oes lliw dim mwy Mae 'na ddail yn crynnu Wrth wynebu'r anwybyddu Mae hiraeth yn tyfu'n glwy Yn ol i'r seibiant Cyn yr ebargofiant O fy myd o'n i'n galw'n gartref Roedd y gwynt yn dynerach Fy'ng ngolwg llawer delach Allai bigio i'r cyfnod fedraf oddef Dyma'r bore yn codi Gyda dadlau yn holi O, be sy'n fy ngwynebu i Ond mae'r awyr yn crio Yn dangos nid oes angen trio Ffeindio reswm i ddiddoru ti So nai dynnu ar fy smôc A chwythu mwg annuwiol 'Chos dyna sy'n fy modloni Wrth i mi lyncu ar fy syched A symud mlaen i arbed meddwl am ystyr i gario mlaen i fodoli Diffyg rheolaeth Goroesi sy'n ddrud Ffisyg dynoliaeth Yw teimlo dim byd Rwy'n colli arweiniad Mae'n fregus i fyw Does dim datblygiad Mae'r byd yn wyw Mae'r byd yn wyw Nawr ma'r nant yn cyflymu A'r heneiddio'n arafu Allaim helpu ond meddwl pryd Nawr ma'r breichiau yn llonydd 'Dw i di colli'r blas a'r awydd Mae aeddfedrwydd yn ormod i gymryd Yr cyfan 'dw in gweld yw'r daliant Dyfodol heb lwyddiant A dyna yw'r pwrpas i ddal ati Dyma'r mellt a tharannau Sy'n canmol yr adegau Lle mae pawb di troi'n gelwyddgi Gennym dywyllwch yn ein bwyta Tra ni'n agosau i'r gladdfa Yr holl ni'n neud yw cogio bod yn iawn Ni'n gweld y sêr mor llethol A ni'n teimlo'n amherthnasol Be fedrwn ni wneud i deimlo'n llawn So nawn ni dynnu ar ein smôc Chwythu mwg annuwiol I flasu mwy o fodloni Wrth i ni lyncu ein barn A chario mlaen i'r dafarn I chwilio am ystyr i fodoli Diffyg rheolaeth Goroesi sy'n ddrud Ffisyg dynoliaeth Yw teimlo dim byd Rwy'n colli arweiniad Mae'n fregus i fyw Does dim datblygiad Mae'r byd yn wyw Edrychwch rownd gyfeillion Fy nghymrodion, ydych chi'n fodlon Gwastraffu siwd gymaint o'ch bywyd I feddargraffu tynged anffodus Ydych chi'n argyhoeddiedig am Yr gylchred anorffenedig chi'n cerdded Chi'n sylwi ei fod yn druenus Ag ei gosb gelyniaethus Edrychwch rownd gyfeillion Y dinasyddion, ydych chi'n cael digon O'r system sy'n cadw ni'n echryslon Fel pypedau a chaethweision Ydych chi'n llwgu am brofiadau Sy'n anelu am amserau gwell I ddianc o'r dichell Cyn gwynebu'r beddgell Edrychwch rownd gyfeillion Mae goroesi yn ddrud Edrychwch rownd gyfeillion Ni'n teimlo dim byd Edrychwch rownd gyfeillion Mae'n rhy fregus i fyw Edrychwch rownd gyfeillion Mae'r byd yn wyw Mae'r byd yn wyw Diffyg rheolaeth Goroesi sy'n ddrud Ffisyg dynoliaeth Yw teimlo dim byd Rwy'n colli arweiniad Mae'n rhy fregus i fyw Does dim datblygiad Mae'r byd mor wyw
Struggling with gwyw? Become a better singer in 30 days with these videos!
Citation
Use the citation below to add these lyrics to your bibliography:
Style:MLAChicagoAPA
"gwyw Lyrics." Lyrics.com. STANDS4 LLC, 2024. Web. 5 May 2024. <https://www.lyrics.com/lyric-lf/5912156/%C3%96ED/gwyw>.
Discuss the gwyw Lyrics with the community:
Report Comment
We're doing our best to make sure our content is useful, accurate and safe.
If by any chance you spot an inappropriate comment while navigating through our website please use this form to let us know, and we'll take care of it shortly.
Attachment
You need to be logged in to favorite.
Log In