atgofion

ÖED

0 fans

ÖED


15:34

 Watch: New Singing Lesson Videos Can Make Anyone A Great Singer

Blynyddoedd yn ôl
Roedd gen i reswm i garu
Heb ymladd na difaru
Ddaw tonnau y môr
A ffeindio lle yn fy nghalon
Drwy afon o atgofion
Gennai dwll yn fy nhymhorau
Dim geiriau i enwi'r
Gwagle i feddwl
Pan oeddet ti ddim ar dy orau
Ond yn ymddangos yn iawn i mi
I weld yn iawn i mi
I weld yn iawn i mi
Yr argraff gyntaf, oedd ymddiriedaeth
Cwmni arwriaeth uchaf
Yn ein cysefin, cyfnod gwell
Yn bell o'r cyffredin
Yng nghanol y twyllo, ti wnaeth godi
I greuloni a'm arteithio
Dyma'r gorffenol, mor bell a ti
Yn unig ar ysgafell, colled y cefnogol
Blynyddoedd yn ôl
Roedd gen i reswm i garu
Heb ymladd na difaru
Ddaw tonnau y môr
A ffeindio lle yn fy nghalon
Drwy afon o atgofion
Gennai dwll yn fy nhymhorau
Dim geiriau i enwi'r
Gwagle i feddwl
Pan oeddet ti ddim ar dy orau
Ond yn ymddangos yn iawn i mi
Genai ffobia o hyd
Sy'n cega mor swnllyd
Mae'n gryfach na'r cyfanfyd
Sydd yn fy ngwneud i yn ddryslyd
Oes rhywyn yn meddwl run peth
Ond edrych mor ddi-gwmwl a phopeth
Mor ddi-doreth
Ddi-doreth
Hoffwn swn i 'di gwrando
Hoffwn swn i'n ymwybodol
Hoffwn swn i'n gallu anghofio
Y gwir camsyniol
Camsyniol
Mewn mater o fisoedd, roedd llonyddwch
A difrifwch dy rhinwedd
Nes i dderbyn, ar ol pob dim
Roeddwn i'n ddi-ddim wrth amddiffyn
Ar ddiwedd ein cwmni, rwy'n cofio fy heddwch
Y brawdgarwch doriethiog o ni'n cydrhannu
Ond allan o nunlle, allaim cysgu
Ti di diflanu a gadael gwagle
Hoffwn swn i 'di gwrando
Swn i di bod yna
Rwy'n blino meddwl
Am dy feddfa
Hoffwn swn i 'di bod yn berson gwell yn dy fywyd
Ond allai i'm fforddio i feddwl fel hynny dim mwy
Ti wedi mynd ers amser hir, a does dim dewis ond i gario mlaen mewn rhyfel
Nes di agor fy llygaid, a welais i'r trallod gadewaist ar dy ol
'Dw i'n gafael ynddo fel rheswm i aros yn fyw pob nos
Ond rwyt ti dal yn fy nghof, hyd yn oed pan mae'n tarfu ar fy mhen
O't ti'n ymddangos yn iawn i fi
Hoffwn swn i 'di bod yn berson gwell yn dy fywyd
Ond allai i'm fforddio i feddwl fel hynny dim mwy
Ti wedi mynd ers amser hir, a does dim dewis ond i gario mlaen mewn rhyfel
Nes di agor fy llygaid, welais i'r trallod gadewaist ar dy ol
A 'dw i'n gafael ynddo fel rheswm i aros yn fyw pob nos
Ond rwyt ti dal yn fy nghof, hyd yn oed pan mae'n tarfu ar fy mhen
O't ti'n ymddangos yn iawn i fi
O't ti'n ymddangos yn iawn i fi
Hoffwn swn i 'di bod yn berson gwell yn dy fywyd
Ond allai i'm fforddio i feddwl fel hynny dim mwy
Ti wedi mynd ers amser hir
Does dim dewis ond i gario mlaen mewn rhyfel, mewn rhyfel
Nes di agor fy llygaid, a welais i'r trallod gadewaist ar dy ol
'Dw i'n gafael ynddo fel rheswm i aros yn fyw pob nos
Ond rwyt ti dal yn fy nghof, hyd yn oed pan mae'n tarfu ar fy mhen
O't ti'n ymddangos yn iawn i fi
Blynyddoedd yn ôl
Roedd gen i reswm i garu
Heb ymladd na difaru
Ddaw tonnau y môr
A ffeindio lle yn fy nghalon
Drwy afon o atgofion
Gennai dwll yn fy nhymhorau
Dim geiriau i enwi'r
Gwagle i feddwl
Pan oeddet ti ddim ar dy orau
Ond yn ymddangos yn iawn i fi
I weld yn iawn i fi
I weld yn iawn i fi
Genai ffobia o hyd
Dal yn cega mor swnllyd
Rhy gryf i'r cyfanfyd
A fy ngwneud i'n ddryslyd
'Dw i isio'r run peth
Allaim edrych mor ddi-gwmwl ar phopeth
Mor ddi-doreth
Di-doreth
Ond allwn i wrando
'Dw i fwy ymwybodol
Fedra i ddim anghofio
Y gwir camsyniol
Camsyniol

 Become A Better Singer In Only 30 Days, With Easy Video Lessons!

Written by: Owi Davies

Lyrics © DistroKid

Lyrics Licensed & Provided by LyricFind

Discuss the atgofion Lyrics with the community:

0 Comments

    Citation

    Use the citation below to add these lyrics to your bibliography:

    Style:MLAChicagoAPA

    "atgofion Lyrics." Lyrics.com. STANDS4 LLC, 2024. Web. 1 May 2024. <https://www.lyrics.com/lyric-lf/5912181/%C3%96ED/atgofion>.

    Missing lyrics by ÖED?

    Know any other songs by ÖED? Don't keep it to yourself!

    Browse Lyrics.com

    Quiz

    Are you a music master?

    »
    "Just own the night, like the fourth of July…"
    A Ariana Grande - 7 Rings
    B Katy Perry - Firework
    C Soft Cell - Tainted Love
    D The Ramones - Sheena is a Punk Rocker

    Free, no signup required:

    Add to Chrome

    Get instant explanation for any lyrics that hits you anywhere on the web!

    Free, no signup required:

    Add to Firefox

    Get instant explanation for any acronym or abbreviation that hits you anywhere on the web!

    ÖED tracks

    On Radio Right Now

    Loading...

    Powered by OnRad.io


    Think you know music? Test your MusicIQ here!